{SITE-NAME} Logo
The Police
Message Type Icon

Neges atal troseddau / Crime prevention message


Neges Ddwyieithog / Bilingual Message.      

 

Dros y diwrnodau diwethaf, rydym wedi cael adroddiadau am bobl yn cael eu targedu gan dwyllwyr sy'n honni eu bod o fanc y dioddefwr, o'r heddlu, neu o sefydliad swyddogol arall. ⚠️

Fel rhan o'r sgamiau hyn, mae troseddwyr yn ceisio perswadio pobl i godi arian o'u banc, gan ddweud o bosibl fod y cyfrif wedi bod yn destun twyll. Wedyn, bydd y twyllwr yn trefnu i gludwr gasglu arian parod, cardiau banc, neu'r ddau, o gartref y dioddefwr.

Mae'r twyllwyr sy'n cyflawni'r sgamiau hyn yn argyhoeddiadol iawn yn aml, ac yn adrodd straeon a all swnio'n gredadwy. Weithiau, byddant yn dweud eu bod yn cynnal ymchwiliad cudd ac na ddylech sôn wrth unrhyw un arall am yr alwad. Mae'n bosibl hefyd y byddant yn dweud bod eich cyfrif mewn perygl os na fyddwch yn gweithredu'n gyflym.

Os byddant yn llwyddo i'ch argyhoeddi, byddant yn eich cyfarwyddo i wneud rhywbeth sy'n golygu eich bod yn rhoi eich arian iddynt. Er enghraifft, efallai y byddant yn gofyn i chi godi arian (neu arian tramor) er mwyn i'r cludwr ei gasglu fel tystiolaeth. Gallant hefyd ofyn am fanylion, fel eich PIN, dros y ffôn cyn i gludwr gasglu eich cardiau credyd neu gardiau banc.

❗Rydym yn parhau i gael adroddiadau am y sgam hon yn Ne Cymru. Felly, os oes gennych berthnasau hŷn nad ydynt yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol, cofiwch siarad â nhw am hyn. Helpwch nhw i fod yn wyliadwrus mewn perthynas â'u harian, a chofiwch eu hatgoffa na fydd y banc na'r heddlu byth yn ffonio i ofyn iddynt gadarnhau manylion personol neu fanylion banc, nac yn gofyn am eu PIN. Ni fydd y naill sefydliad na'r llall yn anfon cludwr i gasglu arian parod neu gardiau 'chwaith.

Ein cyngor:

❌Ni fydd eich banc na'r heddlu byth yn ffonio i ofyn i chi gadarnhau eich manylion personol na'ch PIN. Os cewch chi alwad yn gofyn i chi wneud hyn, rhowch y ffôn i lawr, arhoswch ychydig funudau a ffoniwch eich banc ar rif rydych chi'n gwybod sy'n ddilys, fel yr un ar gefn eich cerdyn

❌Ni fydd eich banc na'r heddlu byth yn anfon cludwyr i'ch cartref i gasglu'ch arian parod, cardiau banc, rhifau PIN nac unrhyw nwyddau gwerthfawr eraill. Mae unrhyw geisiadau i wneud hynny yn rhan o sgam

❌Ni fydd yr heddlu yn cysylltu â chi yn ddirybudd ac yn gofyn i chi gymryd rhan mewn ymchwiliad sy’n gofyn i chi dynnu arian o’ch banc, neu brynu nwyddau gwerth uchel, fel gemwaith neu aur.

 

In recent days, we’ve had reports of people being targeted by fraudsters pretending to be from their would-be victim’s bank, from the police, or from another official organisation. ⚠️

The scams see criminals attempting to persuade people to withdraw money from their bank, perhaps saying there has been fraud on the account. The fraudster then arranges for a courier to collect cash, bank cards, or both, from the victim’s home.

Fraudsters who carry out these scams are often very convincing and give what might appear to be plausible cover stories. Sometimes, they may say that they are carrying out an undercover investigation, and that you shouldn’t let anyone else know about their call. They may also say that your account is at risk if you don’t act fast.

If they manage to convince you, they instruct you to do something which means you’re handing them your money. For instance, they may ask you to withdraw money (or foreign currency) for the courier to collect for evidence. They might also ask for details such as your PIN over the phone before a courier collects your credit or bank cards.

❗We continue to receive reports of this scam here in South Wales. So please, if you have older relatives who don’t use social media, speak to them about this. Help them stay vigilant around their finances and remind them that neither the bank nor the police will ever call and ask for verification of personal details or bank details, or for your PIN. Nor will either organisation send someone out to collect cash or cards from you.

Our advice:

❌Your bank or the police will never call and ask you to verify your personal details or PIN. If you get a call asking you to do this, hang up, wait a few minutes and call your bank on a number you know to be genuine, such as the one on the back of your card

❌Your bank or the police will never send a courier to your home to collect your cash, bank cards, PINs, or any other valuable goods. Any requests to do so are part of a scam

❌

The police will not contact you out of the blue and ask you to participate in an investigation that requires you to withdraw money from your bank, or to purchase high value goods, such as jewellery or gold

 


Reply to this message

Message Sent By
Michelle Farmer
(Police, Crime Reduction Tactical Advisor, Community Safety Department)

Neighbourhood Alert Cyber Essentials